Ym mhennod olaf y podlediad mae Ioan yn teithio i wlad Pwyl i siarad â theulu Stanislaw Sykut.
Mae’n cyfarfod Anna Resz, ei ferch, a’n dysgu am effaith ei ddiflaniad ar y teulu.
Mae’r teulu wedi gwneud ymchwil eu hunain i’r achos, felly beth yw eu barn nhw am yr hyn ddigwyddodd ‘yng Nghwmdu yn 1953?
Cawn glywed hefyd am ymweliad olaf Michael Onufrejczyc â fferm Cefn Hendre ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar, ac amgylchiadau rhyfedd ei farwolaeth wedi hynny.
Cyflwyno a chynhyrchu: Ioan Wyn Evans Dylunio a chymysgu sain: Meic Parry Cerddoriaeth thema: Patrick Rimes