Oedd diflaniad Stanislaw Sykut yn ymwneud â'r Ail Ryfel Byd?

Yn ail bennod y gyfres, cawn glywed mwy am y Pwyliaid ddaeth i Brydain wedi’r Ail Ryfel Byd.

Anna Rolewska o Brifysgol Aberystwyth sy’n cyflwyno hanes y teuluoedd ddaeth i Orllewin Cymru i Ioan. Cawn glywed hefyd am brofiad teulu Wieslaw Gdula, wnaeth setlo yn ardal Ffarmers yn y cyfnod.

Gwasanaethodd Sykut ac Onufrejczyc yn y fyddin Bwyleg yn ystod y rhyfel, a chaiff Ioan glywed am gysylltiad posib rhwng y cyfnod hwnnw o’u bywyd â’r achos.

Cyflwyno a chynhyrchu: Ioan Wyn Evans Dylunio a chymysgu sain: Meic Parry Cerddoriaeth thema: Patrick Rimes