Mae'r wythnos gyntaf o ymarferion ar gyfer daith Theatr Haf Arad Goch o'r ddrama i blant newydd - JEMIMA bellach wedi gorffen, a dwi wedi cymryd mantais dros yr wythnos diwethaf o'r cyfle i adlewyrchu dros yr hyn dwi wedi bod yn anelu ati ar hyd fy holl fywyd, a mae'r cyfle hon wedi'i helpu a'i ysbrydoli wrth fod mewn 'stafell gyda greadigwyr eraill sy'n rhannu'r un egni a frwdfrydedd o greu darn o theatr mewn modd cydweithredol a charedig.
"Does neb yn gorfod cystadlu gyda neb arall i lwyddo yn bywyd." - Leigh Alexandra
Ydych chi erioed wedi ystyried bod pethau ddim i fod y ffordd roeddech chi'n meddwl?
Beth os mae'r 'gore' (gorau) y rydych wedi bod yn chwilio amdani eich holl fywyd... ddim yn ffitio'r disgwyliad ma' cymdeithas wedi gwneud i chi feddwl sydd rhaid?
Dwi'n taflu'r feddylfryd bod angen bod yn gystadleuol, neu'n genfigenys, neu'n ofnus allan trwy'r ffenest, er mwyn byw mewn modd fwy heddychlon ac i weithio yn organig ac i'r gorau yn y foment bresennol - heb feddwl bod rhaid i fi anelu at fod yn unrhyw beth heb law am fi fy hun.
Dim ego.
Dim negyddiaeth.
Dim rhwystrau.
Dewch gyda fi i feddwl am eich 'gore'.
Diolch am wrando, Leigh Alexandra.
N.B - Pan dwi'n dweud "agor lleuad"... dwi wrth gwrs yn meddwl "llygaid" - er mod i'n caru'r lleuad.