Gareth, Huw and Russell take a look at the early season form and fortunes of Wales squad players and those making an impression from outside it.
Mae Gareth, Huw a Russell yn ystyried y tymor cynnar a hwyl a ffawd y chwaraewyr sydd yng ngharfan Cymru a'r rheini o du hwnt sy'n gwneud argraff da.
The Dragon On My Shirt is a brand new series looking at the experiences of some of the people of colour to represent Wales in football. Produced by East Sleep Media and supported financially by Welsh Government's anti-racism programme, the series is written and presented by Darren Chetty (@rapclassroom). It features the likes of Neil Taylor, George Berry, Wendy Reilly and Safia Middleton-Patel.
Darren has also prepared an Info Pack for the series, including an educational Discussion Resource.
The series is available to watch on the FAW's RedWall+ streaming channel.
Trigger warning: this episode refers to racism and people's experiences of overt racism. No racial slurs are used but they are implied.
Cyfres newydd sbon yw The Dragon On My Shirt sy'n edrych ar brofiadau rhai o'r pobl o liw sydd wedi cynrychioli Cymru ym mhêl-droed. Cynhyrchwyd gan East Sleep Media gyda chefnogaeth ariannol oddi wrth raglen gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru, mae'r gyfres wedi'i hysgrifennu a'i chyflwyno gan Darren Chetty (@rapclassroom). Mae'n cynnwys chwaraewyr megis Neil Taylor, George Berry, Wendy Reilly a Safia Middleton-Patel.
Hefyd mae Darren wedi paratoi Pecyn Gwybodaeth ar gyfer y gyfres, gan gannwys Adnodd Trafod addysgol.
Mae'r gyfres ar gael i'w gwylio ar RedWall, sianel ffrydio CBDC.
Rhybudd: mae'r episod yma yn cyfeirio at hiliaeth a phrofiadau pobl o hiliaeth amlwg. Does dim sarhau hiliol ond maen nhw'n cael eu hawgrymu.
Huw, Rich and Russell review a disastrous international window that puts Rob Page's future in doubt. (Contains squeaky chairs).
Mae Huw, Rich a Russell yn arolygu ffenest rhyngwladol trychinebus sy'n bwrw amheuaeth ar ddyfodol Rob Page. (Mae ganddi gadeiriau gwichlyd).
Leon and Russell look ahead to the final internationals of the 2022/23 season: at home to Armenia, away to Türkiye. They discuss the returns to the squad for Brennan Johnson, Ben Davies and David Brooks; the return to the coaching set-up for psychologist Ian Mitchell; a £30m bid for Johnson; and ask 'Who the hell is Joe Low?!'
Mae Leon a Russell yn edrych ymlaen at gemau rhyngwladol olaf y tymor 2022/23: gartre yn erbyn Armenia, oddi gartre yn Nhwrci. Maen nhw'n sgyrsio dychwleyd Brennan Johnson, Ben Davies a David Brooks i'r garfan; dychwelyd y seicolegydd Ian Mitchell i'r tîm hyfforddi; cais £30m am Johnson; a gofyn 'Pwy yn uffern yw Joe Low?!'
Back in early 2022 we put out a Patreon only epsiode in which we chatted with former Wrexham and Everton striker Dave Smallman who won seven caps for Wales.Dave chats about how his ascent to the Wrexham first team at the age of only 20, the club’s famous FA Cup runs and successful u23 caps helped alert Dave Bowen to his promise. But upon arriving at Wrexham General station to sign as a 16 year old, nerves almost got the better of him.Although he won only seven caps, Dave figured in two of the greatest wins in Wales’s history: the famous 2-1 win in Hungary’s Nep Stadium in April 1975; and the 1-0 win over Austria at The Racecourse in November that year. But Dave explains why he was the only Welsh person inside The Racecourse that night not to celebrate Arfon Griffiths’ winner which secured the only time Wales has topped a qualifying group. ___________________Yng nghynnar yn nôl yn 2022 fe wnaethom ni ryddhau epsiod ar Patreon yn yr hyn y wnaethom ni sgyrsio â chyn-flaenwr i Wrecsam ac Everton, Dave Smallman, a ennillod saith o gapiau i Gymru.Mae Dave yn sôn am sut dynnwyd sylw Dave Bowen i’w addewid wedi iddo esgyn i’r tîm cyntaf Wrecsam pan oedd yn 20 oed yn unig, o achos rhediadau enwog y clwb yn y Cwpan FA a chapiau o dan 23 oed llwyddiannus. Ond pan gyrhaeddodd y llanc 16 oed orsaf Wrecsam Gyffredinol i lofnodi i’r clwb, cafodd bron ei orau gan ei nerfau.Er ennillodd saith cap yn unig chwaraeodd Dave mewn dau o fuddugoliaethau mwyaf mewn hanes Cymru, y ddwy ym 1975: y fuddugoliaeth 2-1 yn Stadiwm Nep yn Hwngari; a’r fuddugoliaeth 1-0 dros Awstria yn y Cae Râs. Ond mae Dave yn egluro pan oedd e’r unig Cymro neu Gymraes tu fewn y Cae Râs y noson honno i fethu dathlu gôl ennill Arfon Griffiths a sicrheuodd am y tro unig safle ar frig grwp rhagborofol i Gymru.
On the occasion of this season's FA Cup semi-final between Manchester United and Brighton & Hove Albion, 40 years after the two clubs faced each other in the 1983 final, our Leon Barton wrote for Nation Cymru about the sole Welshman to figure in that final - Alan Davies.Davies played for Manchester United, Newcastle and Swansea and won 13 Cymru caps but injuries hampered his career and he eventually took his own life in 1990 aged only 30.Leon and Russell are joined by member of The Barry Horns and Swans fan Chris Leek who recalls fondly watching from The Vetch terraces a gifted player.Note that this episode discusses themes such as suicide, depression, poor mental health and sexual abuse. If you have been affected by any of these issues there is always someone willing to listen to you and your feelings.Ar achlysur gêm rownd cyn-derfynol y Cwpan FA y tymor hwn rhwng Manchester United a Brighton & Hove Albion, 40 mlynedd wedi i'r ddau dîm wynebu eu hunain yn y rownd terfynol ym 1983, ysgrifennodd ein Leon Barton am Nation Cymru am yr unig Cymro i chwarae yn y gêm yna - Alan Davies.Chwaraeodd Davies i Manchester United, Newcastle ac Abertawe ac ennillodd 13 o gapiau i Gymru ond llesteiriodd anafiadau ei yrfa ac yn y diwedd lladdodd ei hunan ym 1990 dim ond 30 oed.Mae Chris Leek, aelod o'r Barry Horns a chefnogwr yr Elyrch, yn ymuno â Leon a Russell ac mae e'n atgofio'n fraf gwylio chwaraewr dawnus o derasau'r Vetch.Nodwch bod y rhifyn hwn yn trafod pynciau megis hunanladd, digalondid, iechyd meddwl gwael a chamdrin rhywiol. Os ydych chi erioed cael eich effeithio gan unrhyw o'r pynciau hyn, mae yna rhwyun trwy'r amser sy'n fodlon i wrando arnoch chi a'ch teimladau.Alan Davies (Credit: FAW) and Manchester United (Credit: PA)
Russell, Leon and Huw look back at an ideal start to the qualifying campaign for Euro 2024 in Split and at home to Latvia. The international window also saw an historic qualification for the u17s and an impressive friendly win for the u21s.Mae Russell, Leon a Huw yn edrych yn ol ar ddechrau delfrydol i'r ymgyrch rhagbrofol ar gyfer Ewro 2024 yn Split a gartre' i Latfia. Hefyd fe welodd y ffenest rhyngwladol hanes gan y tim o dan 17 a buddugoliaeth wych gan y tim o dan u21.https://soundcloud.com/podcast_peldroed/ep156-zombie-nathan
Jaz Long (@photophobian), member of the Wal Goch y Menywod fans group who follow the Wales women's team home and away, joins the podcast to look back on Helen Ward's international career.Cymru's record scorer, Helen recently announced her international retirement with immediate effect and will retire from club football at the end of this season. Mae Jaz Long (@photophobian), aelod y grwp cefnogi Wal Goch y Menywod sy'n dilyn tîm menywod Cymru gartre ac ar y ffordd, yn ymuno â'r podlediad i edrych yn ôl ar yrfa rhyngwladol Helen Ward.Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd Helen, sgoriwr goliau mwyaf cynhyrchiol Cymru, ei hymddeoliad rhyngwladol heb oedi a bydd hi'n ymddeol o bêl-droed yn llwyr ar ddiwedd y tymor.
Rich, Huw, and Russell discuss Rob Page's first squad announcement since Qatar ahead of the Euro 2024 qualifying campaign and fixtures against Croatia and Latvia.Mae Rich, Huw, a Russell yn sgyrsio cyhoeddiad carfan cyntaf Rob Page ers Qatar o flaen yr ymgyrch rhagbrofol Ewro 2024 a gemau yn erbyn Croatia a Latfia.
With the news that Joe Allen has retired from international football, like London buses, it's a second consecutive tribute episode. Fittingly, it was Valentine's Day and Leon and Russell pay tribute to the heartbeat of the Wales team for the last decade. They also look at the prospects of Wrexham's Paul Mullin receiving a call up to one or other of the international windows in March and June.Wedi i Joe Allen gyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, fel bysiau Llundain, dyma rifyn teyrnged olynol. Yn briodol, roedd yn Ddydd Gŵyl Sain Folant ac mae Leon a Russell yn talu eu teyrgend i guriad calon tîm Cymru ers y degawd diwethaf. Hefyd maen nhw'n edrych ar ba obaith sydd gan Paul Mullin o Wrecsam o dderbyn galwad i naill ai'r ffenestr rhyngwladol mis Mawrth neu'r llall ym mis Mehefin.
After Gareth Bale announced his retirement from all football Leon, Rich, Huw and Russell attempt to pay tribute to him and his remarkable career; consider what will come next for him; and what his retirement means for the Wales team.Wedi i Gareth Bale gyhoeddi y bu'n ymddeol o bêl-droed i gyd mae Leon, Rich, Huw a Russell yn ceisio talu teyrnged iddo fe a'i yrfa arbennig; ystyried be' ddaw nesaf iddo fe; a pha effaith caiff ei ymddeoliad ar dîm Cymru.
As we know, Wales waited 64 years to reach a second World Cup. But is that the longest period between appearances on the game's biggest stage? Who else has waited as long, or is still waiting...?Fel y gwyddwn ni, roedd Cymru'n aros ers 64 mlynedd i gyrraedd ei hail Gwpan y Byd. Ond ai hynny'r cyfnod hiraf rhwng ymddangos ar lwyfan mwyaf y gêm? Pwy arall fu aros cyhyd, neu aros o hyd....?
Russell, Leon, Gareth and Huw reflect on Wales's first World Cup finals match in 64 years, against the United States. They also look back at the other match in Group B, England versus Iran, and begin to look ahead to the Iran clash on Friday 25 November.
Mae Russell, Leon, Gareth a Huw yn myfyrio ar gêm Cymru cyntaf mewn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers 64 mlynedd, yn erbyn yr Unol Dalieithau. Hefyd maen nhw'n edrych yn ôl at y gêm arall yng Ngrŵp B, Lloegr yn erbyn Iran, a dechrau edrych ymlaen at y brwydr ag Iran Ddydd Gwener 25 Tachwedd.
pic | llun: Tim Hartley
Leon, Rich and Russell continue their preview of the World Cup.
Mae Leon, Rich a Russell yn parhau eu rhagolwg o Gwpan y Byd.
As the squad touch down in Qatar, Leon, Rich and Russell get in the mood for the World Cup with part 1 of a long preview.
Credit: commentary at the start of the episode from Sgorio
Wrth i'r garfan lanio yn Qatar, mae Leon, Rich a Russell yn codi eu hwyl am Gwpan y Byd gyda rhan cyntaf o ragolwg hir.
Credyd: sylwebaeth ar ddechrau'r rhifyn gan Sgorio
Huw, Russell and Gareth pick their 26 man squads for Qatar. Also be sure to check out Huw's contribution to the Talking Tactics podcast and to the World Cup edition of Four Four Two. Russell recently appeared on the first episode of the A.C.E. Podcast Nation 'From Wales To The World' series: https://www.instagram.com/p/Cj3Z4FHL7ZX/.
Mae Huw, Russell a Gareth yn dewis ei garfanau o 26 ar gyfer Qatar. Hefyd byddwch yn siwr i fwrw golwg ar gyfraniad Huw i'r podlediad Talking Tactics ac argraffiad Four Four Two am Gwpan y Byd. Yn ddiweddar daeth Russell ar rifyn cyntaf yng nghyfres 'From Wales To The World' sydd gan A.C.E. Podcast Nation: https://www.instagram.com/p/Cj3Z4FHL7ZX/.
Leon and Russell look back at the final Nations League 2022 games which ended in narrow defeats to Belgium and Poland, and ultimately see Cymru return to tier B of the NL.
Mae Leon a Russell yn edrych yn ôl ar gemau olaf Gynghrair y Cenedloedd League 2022 a'u collodd Cymru y ddau yn gul yn erbyn Gwlad Belg a Gwlad Pwyl i'w ddychwelyd i haen B y Gynghrair.
Huw and Russell look ahead at how Rob Page might approach the final 2022 Nations League games against Belgium and Poland given the absence of Aaron Ramsey, Joe Allen, Ben Davies, Harry Wilson and, possibly, Gareth Bale.
Mae Huw a Russell yn edrych ymlaen at sut efallai y bydd Rob Page ystyried gemau olaf Cynghrair y Cenedloedd 2022 yn erbyn Gwlad Belg a Gwlad Pwyl gan fydd dim Aaron Ramsey, Joe Allen, Ben Davies, Harry Wilson ac, efallai, Gareth Bale.
After a short break, Rich, Gareth and Russell reconvene to catch up on all the early season news.
Ar ôl egwyl fer, mae Rich, Gareth a Russell yn ailgynnull i ddal i fyny gyda newyddion i gyd y tymor cynnar.
Swansea fan and Patreon subscriber Ian Derrick is our guest this episode to discuss Joe Allen's return to his boyhood club. Ian explains how he sees Joe fitting in at the Swans in terms of the team, his wider role in the club and potentially what he may have an eye on once his playing days are over.
Mae Ian Derrick, cefnogwr Abertawe a thanysgrifwr Patreon, yn ymuno â'r rhifyn hwn i drafod dychweliad Joe Allen i glŵb ei fachgendod. Mae Ian yn egluro sut mae e'n gweld Joe yn ffitio mewn gyda'r Elyrch ynglŷn â'r tîm, ei rôl cyffredinol yn y clŵb ac efallai be' sydd ar y gorwel iddo fe pan ddaw ei yrfa chwarae i ben.
Leon, Gareth and Russell review the June Nations League programme: who enhanced their reputation and stake for a seat to Qatar; who did their chances harm; the likelihood of avoiding relegation from tier A of the Nations League.
Mae Leon, Gareth a Russell yn arolygu rhaglen Cynghrair y Cenedloedd mis Mehefin: pwy wellodd eu henwau a chyfle am sedd i Qatar; pwy wnaeth ddrwg i'w siawnsau; y tebygolrwydd o osgoi diraddiad o haen A Cynghrair y Cenedloedd.
Images | Lluniau: Tim Hartley
In 1958 Wales snuck in through the back door to reach its maiden World Cup. 64 years later Russell, Leon and Huw revel in Wales striding in through the front door for Qatar.
Ym 1958 sleifiodd Cymru trwy'r drws cefn er mwyn cyrraedd ei Chwpan y Byd cyntaf. 64 mlynedd pellach mae Russell Leon a Huw yn ymhyfrydu mewn Cymru yn brasgamu trwy ddrws ffrwnt Qatar.
Huw, Gareth and Russell look ahead to one of, if not, the biggest fixture in Welsh footballing history with Ukraine confirmed as the play-off opponents after they triumphed 3-1 at Hampden Park. They also look back at an encouraging display in Wroclaw in the opening 2022 Nations League fixture versus Poland, with Wes Burns on his debut and Dylan Levitt in particular catching the eye.
Mae Huw, Gareth a Russell yn edrych ymlaen at un o'r gemau mwyaf, efallai y mwyaf, mewn hanes pêl-droed Cymru gydag Wcráin yn cadarnhau eu hunain i'n gwrthwynebu ni wedi iddynt ennill 3-1 ym Mahrc Hampden. Hefyd maen nhw'n edrych yn ôl at ymdrech calonogol yn Wroclaw yng ngêm agorol Cynghrair y Cenedloedd 2022 yn erbyn Gwlad Pwyl, gyda Wes Burns ar achlysur ei gap gyntaf a Dylan Levitt yn arbennig dal y llygad.
Yn y rhifyn Cymraeg arbennig er gefnogaeth cais Dinas Diwylliant #Wrecsam2025 mae sawl o bobl yn mynegi pam mae pêl-droed mor arbennig i Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru, ac annog Y Wal Goch i ddod wrth gefn y gais ar ran Cymru oll.
Mae siaradwyr yn cynnwys Craig Colville a Morgan Thomas o dîm y gais; bard a llysgennad #Wrecsam2025 Evrah Rose (yn Saesneg); chwaraewr CPD Wrecsam AFC a Chymru o dan 17 Lili Jones; a nifer o aelodau'r Wal Goch ledled Cymru.
Ymwelwch â www.wrecsam2025.com am ragor o fanylion.
Cerddoriaeth:
Kidsmoke - And Mine Alone: https://www.youtube.com/watch?v=zVynpCVR31k
The Barry Horns – This Is Wales: https://www.youtube.com/watch?v=wq0li5s6G8w
In this special episode in support of the #Wrecsam2025 #CityofCulture2025 bid a range of people express why football is so special to Wrexham and north east Wales, and encourage The Red Wall to get behind the bid on behalf of the whole of Wales.
Speakers include Craig Colville and Morgan Thomas from the bid team; poet and #Wrecsam2025 ambassador Evrah Rose; Wrexham AFC and Wales under 17 player Lili Jones; as well as a number of members of The Red Wall from all across Wales.
Visit www.wrecsam2025.com for more details.
Music:
Kidsmoke - And Mine Alone: https://www.youtube.com/watch?v=zVynpCVR31k
The Barry Horns – This Is Wales: https://www.youtube.com/watch?v=wq0li5s6G8w
Ben James from the View From The Ninian podcast and website joins the podcast to share his insights into the young talent coming through at Cardiff City and getting their chance by Steve Morison.
Mae Ben James o'r podlediad a gwefan View From The Ninian yn ymuno â'r podlediad i rannu ei fewnwelediadau ar y dalent ifanc sy'n dod trwy rengoedd Dinas Caerdydd a chael cyfleon gan Steve Morison.
Russell is joined by Ronnie and Paul from The Dode Fox Podcast, a fan podcast about all things Dundee United, to discuss how Dylan Levitt's loan spell at Tannadice is going.
Mae Russell yn cael ei ymuno â fe gan Ronnie a Paul o The Dode Fox Podcast, podlediad ffan am bob dim Dundee United, i sgyrsio sut mae amser Dylan Levitt ar fenthyg yn Tannadice yn mynd.
In the run-up to Wales's crunch qualifying match with France for the 2023 Women's World Cup, Russell is joined by Hales Evans, founder of feWales to discuss the match, the growing Red Wall at women's internationals and why she set up feWales to provide fan wear for women.
Gyda gêm anferthol Cymru ar ddiwedd yr wythnos yn erbyn Ffrainc ar gyfer Cwpan y Byd Menywod 2023, mae Russell yn cael ei ymuno â fe gan Hales Evans, sylfaenydd feWales i drafod y gêm, y Wal Goch grar ei thyfiant wrth gemau rhyngwladol mewnywod, a'i rhesymau am sylfaeni feWales i ddarparu gwisg i ffans benywaidd.
Hales Evans a chapten Cymru, Sophie Ingle | Hales Evans and Wales captain, Sophie Ingle
In this episode Russell, Gareth, Leon and Huw celebrate Wayne Hennessey's hundredth cap won in the friendly with the Czech Republic; and, should Wales qualify for Qatar 2022, who will join them in World Cup group B.
Yn y rhifyn hwn mae Russell, Gareth, Leon a Huw yn dathlu ganfed gap Wayne Hennessey a'i ennillodd yn y gêm gyfeillgar yn erbyn y Weriniaeth Tsiec; a, os yw Cymru yn llwyddo cyrraedd Qatar 2022, pwy fydd yn ymuno â nhw yng ngrŵp B Cwpan y Byd.
Llongyfarchiadau | Congratulations Wayne Hennessey
On one of the great nights in Welsh football history, the Wales men's team took a step closer to Qatar 2022 with a deserved victory over Austria at an electric Cardiff City Stadium.
Ar un o'r nosweithiau mwyaf erioed mewn hanes pêl-droed Cymru, cymerodd ei thîm dynion gam agosach tuag at Qatar 2022 gyda fuddugoliaeth haeddiannol dros Awstria mewn Stadiwm Dinas Caerdydd trydanol.
In addition to Russell and Gareth looking ahead to Austria's visit to Cardiff for the World Cup play-off game, the Other Bundesliga podcast answer questions from Patreons about the clash and Huw Davies shares his thoughts.
This episode is dedicated to the people of Ukraine.
Yn ogystal â Russell a Gareth sy'n edrych ymlaen at ymweliad Awstria â Chaerdydd am y gêm ail gyfle Cwpan y Byd, mae'r podlediad Other Bundesliga yn ateb cwestiynau oddi wrth Patreons am y brwydr ac mae Huw Davies yn rhannu ei feddyliau.
Mae'r rhifyn hwn wedi'i gysegredig i'r bobl Wcráin.
In this episode - sponsored by Sporting Heritage CIC - Russell is joined by football historian Ian Garland and Ashley Drake of St David's Press publishing.
Ian has co-written, with Gareth M Davies, Sons of Cambria, the who's who of male footballers who have represented Wales since the very first international match against Scotland in 1876 until 1946, including wartime and Victory internationals, as well as assorted other uncapped and representative matches.
You can buy the book here.
For further details about Sporting Heritage's work in Wales and across the UK visit their website and social media, check out their podcast channel on Soundcloud and throughout the month of February 2022 celebrate The Art of Sporting Heritage on social media at #SportAndArt.
Yn y rhifyn hwn - noddir gan Sporting Heritage CIC - mae Russell yn cael ei ymuno â fe gan hanesydd pêl-droed Ian Garland ac Ashley Drake o'r cyhoedd-dy St David's Press.
Gyda Gareth M Davies bu Ian yn cyd-ysgrifennu, Sons of Cambria, y pwy yw pwy o bob pêl-droedwr gwrwaidd i gynrychioli Cymru ers ei gem cyntaf erioed yn erbyn Yr Alban ym 1876 tan 1946, yn cynnwys gemau rhyngwladol yn ystod y rhyfel a Buddugoliaeth, yn ogystal â'r amrywolaeth o gemau di-gap a chynrychiol.
Gellir prynu'r llyfr yma.
Am ragor o fanylion am waith Sporting Heritage yng Nghymru a ledled y DU ymwelwch â'u gwefan a chyfryngau cymdeithasol, bwrw golwg ar eu sianel podlediadau ar Soundcloud a thrwy gydol mis Chwefror 2022 dathlwch Celf Treftadaeth Chwaraeon ar gyfryngau cymdeithasol ar #SportAndArt #ChwaraeonaChelf.
https://www.soundcloud.com/sportingheritage
In this episode Russell and Leon are joined by former Wales captain Laura McAllister.
Laura recalls her childhood experiences of being drawn into football in Bridgend and in the Llynfi valley and subsequently at secondary school, and then at Millwall while she was a student in London.
Laura then explains how, having returned to Wales and joined Cardiff City Ladies, she was part of the group that made representation to the Football Association of Wales for formal recognition of a national women’s time.
In 2021 Laura stood for election as a Uefa rep on Fifa and surprised much of the continent by running the victor so close. Will she stand again? Laura reveals her intentions and explains why ex-players should to have a greater say in the running of the game at all levels.
Yn y rhifyn yma mae Russell a Leon yn cael eu hymuno gan cyn-gapten Cymru Laura McAllister.
Mae Laura yn atgoffa ei phrofiadau plentyndod o cael ei thynnu at bêl-droed ym Mhen-y-bont a Chwm Llynfi, yna yn yr ysgol uwchradd, ac yna gyda Millwall tra ei bod hi’n fyfyrwr yn Llundain.
Ar ôl dychwelyd i Gymru ac ymuno â Menywod Dinas Caerdydd, mae Laura yn egluro sut oedd hi’n rhan o’r grŵp a aeth i’r Gymdeithas Bêl-droed Cymru i ofyn iddi i gydnabod yn ffurfiol y tîm menywod cenedlaethol.
Yn 2021 safodd Laura dros etholiad i Fifa fel cynrychiolydd Uefa a synnodd cryn dipyn o’r cyfandir gan redeg yr ennillydd mor agos. Fydd hi’n sefyll unwaith eto? Mae Laura yn dadlennu ei bwriadau ac yn egluro pam ddylai cyn-chwaraewyr gael mwy o ddweud mewn rhedeg y gêm ar bob lefel.
Scott McIntosh (@Amoruso1998) from the Hearts fan site Amoruso Lets It Run joins the podcast to provide a Hearts eye view of how Ben Woodburn is doing in his season long loan spell at Tynecastle.
Mae Scott McIntosh (@Amoruso1998) o Amoruso Lets It Run, gwefan ar gyfer cefnogwyr Hearts, yn ymuno â'r podlediad i ddarparu safbwynt o Tynecastle ar sut mae Ben Woodburn yn gwneud yn ei dymor ar fenthyg yno.
For this episode Lewis Eldred discusses some of the findings of his Masters research into the political, social and linguistic identities of fans in The Red Wall in comparison to those among supporters of the Wales rugby team.
You can read Lewis's full thesis here.
Yn y rhifyn yma mae Lewis Eldred yn trafod rhai o ganlyniadau ei ymchwil Meistr ar hunaniaethau gwleidyddol, cymddeithasol ac ieithyddol ymhlith aelodau'r Wal Goch mewn cymhariaeth â'r rheini ymlith cefnogwyr tîm rygbi Cymru.
Gallwch chi ddarllen thesis llawn Lewis yma.
Credyd y brif ddelwedd | Featured image credit: https://twitter.com/IndyWalesFans
It's a full house this week - fittingly, given what was arguably Rob Page's finest window - and Leon, Russell, Gareth and Rich deep dive into the Belarus and Belgium qualifiers. Despite stellar performances by Neco Williams they consider what his longer-term position and role may be. They also celebrate the contributions of Joe Morrell, Aaron Ramsey and Kieffer Moore.
The four points from those games clinched a play-off and they also consider potential opponents en route to Qatar.
Tŷ llawn yr wythnos hon - yn briodol gan fod gellir dadlau mai'r ffenest oedd un mwyaf gampus Rob Page - ac mae Leon, Russell, Gareth a Rich yn yfed yn helaeth y gemau rhagbrofol yn erbyn Belarws a Gwlad Belg. Er gwaethaf perfformiadau serol gan Neco Williams, maen nhw'n ystyried be' efallai fydd ei safle a rôl yn y pendraw. Hefyd maent yn dathlu cyfraniadau Joe Morrell, Aaron Ramsey a Kieffer Moore.
O achos pedwar bwynt y gemau hynny cadarnhawyd gêm ail gyfle ac hefyd maen nhw'n ystyried gwrthwynebwyr posib ar y ffordd i Qatar.
Twitter: @PodcastPeldroed
Russell: @llannerch Leon: @leoncbarton
Gareth: @gtaylor731 Rich: @richowainrobs
Instagram: @podcastpeldroed
www.podcastpeldroed.cymru
To become a patron click on the image below | I ddod yn patron cliciwch ar y delwedd isod
Leon and Russell are joined by Huw Davies (he's only 35 you know?) to look ahead to Wales's final World Cup qualifiers against Belarus and Belgium.
Mae Huw Davies (dim ond 35 oed ydy e) yn ymuno â Leon a Russell i edrych mlaen at gemau rhagbrofol Cwpan y Byd olaf Cymru yn erbyn Belarws a Gwlad Belg.
In this episode author Tim Hartley chats with Russell about his brand new book on Pitch Publishing, The World At Your Feet: Searching for the soul of football. They chat about the domestic scene and the increasing appetite there is for it, as well as some of the game's wider geopolitical issues
It can be bought online, from the usual booksellers but also from local independent sellers such as Caban and Insole Court in Cardiff. #shopindie
Yn y rhifyn hwn mae awdur Tim Hartley yn sgyrsio â Russell am ei lyfr newydd sbon ar Pitch Publishing, The World At Your Feet: Searching for the soul of football. Maen nhw'n trafod y llwyfan domestig a'r chwant mwyfwy ar ei gyfer, ac ychydig o bynciau daearwleidyddol y gêm hefyd.
Gellir ei brynu arlein, oddi wrth y gwerthwyr arferol ond hefyd oddi wrth werthywr annibynnol megis Caban a Chwrt Insole yng Nghaerdydd
Tim Hartley
One of the founders of the Welsh Sports Hall of Fame, journalist Rob Cole, joins Russell to explain why the Hall of Fame was founded in 1989 and runs through the footballers who have been inducted since .
Mae un o sylfaenwyr Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru, newyddiadurwr Rob Cole, yn ymuno â Russell i egluro pam sylfaenwyd Oriel Anfarwolion ym 1989 a rhedeg trwy'r pêl-droedwyr sydd wedi'u hynydu ers hynny.
20.06.18 - Welsh Sport Hall of Fame Awards, Cardiff -
Darparir pob delwedd gan Rob Cole | All images supplied by Rob Cole
In this episode Rich, Leon and Russell review the recent international window. After an encouraging performance in Prague, Estonia once again frustrated Wales. But 4 points away from home is also a handy return and it leaves the race for Qatar still in Wales's hands.
Yn y rhifyn ma mae Rich, Leon a Russell yn arolygu'r ffenest rhyngwladol diweddar. Wedi perfformiad calonogol yn Prague, unwaith eto fe gafodd Cymru eu llethu gan Estonia. Ond 4 o bwyntiau oddi gartre yn helfa ddefnyddiol hefyd ac yn nwylo Cymru o hyd yw'r ras i Qatar.
Russell is joined by Matt Shaw from the And He Takes That Chance Huddersfield Town fan podcast to get the lowdown on Wales-qualified Sorba Thomas, the Championship Player of the Month for August.
Mae Russell yn cael ei ymuno â fe gan Matt Shaw o'r podlediad cefnogwr Huddersfield Town And He Takes That Chance i ddysgu pob dim am Seren Mis Awst y Pencampwriaeth Lloegr, Sorba Thomas sy'n gymwys i Gymru.
Rich and Russell review Wales' disappointing goalless draw at home to Estonia in World Cup qualifying.
Mae Rich a Russell yn arolygu gêm gyfartal di-sgor siomedig Cymru yn erbyn i Estonia gartre yn yr ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd.
Leon and Russell are joined by guest Josh Embling to dissect the Belarus qualifier played in Kazan, Russia and look ahead to the Estonia game that completes the World Cup qualifying window.
Mae Leon a Russell yn cael eu hymuno gan Josh Embling i ddadansoddi y gêm rhagbrofol yn erbyn Belarws yn Kazan, Rwsia ac edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Estonia a ddaw y ffenest rhagbrofol Cwpan y Byd i ben.
Rich, Russell and Gareth review the comings and goings of the summer transfer window on the eve of its closing.
Mae Rich, Russell a Gareth yn arolygu bwrlwm ffenest trosglwyddo'r haf ar drothwy ei chau.
Leon, Rich and Russell come to the end of the road of Euro 2020.
They dissect the dismal performance against Denmark, the quality of the refereeing Wales experienced, and what next for Robert Page, Gareth Bale, Aaron Ramsey and the younger members of the squad. Not an episode for fans of Graeme Souness.
Mae Leon, Rich a Russell yn cyrraedd pen y ffordd Ewro 2020.
Maen nhw'n dyrannu'r perfformiad gwael yn erbyn Denmarc, ansawdd y dyfarnu y gwnaeth Cymru eu profi, a be' nesaf am Robert Page, Gareth Bale, Aaron Ramsey ac aelodau ifancach y garfan. Ddim yn rhifyn i ffans o Graeme Souness.
All images | Pob delwedd - Tim Hartley
As the twists and turns of Group B play out with Wales's round of 16 opponents changing throughout the course of the recording, Gareth and Russell are joined by Cardiff based poet Sarah McCreadie to review the Italy game. Also contains traces of Vladimir Nabokov, Jean-Philippe Toussaint, horror films and broken metatarsals.
Wrth i grwp B droi a throelli a bu gwrthwynebwyr rownd o 16 Cymru yn newid trwy gydol recordio, mae Gareth a Russell yn cael eu hymuno gan fardd o Gaerdydd Sarah McCreadie i arolygu gêm Yr Eidal. Hefyd mae ganddi fymryn o Vladimir Nabokov, Jean-Philippe Toussaint, ffilmiau arswyd a metatarsolau wedi'u torri.
Gareth, Rich, Leon and Russell bask in the glory of one of the great nights of Welsh football.
Recorded immediately after the victory over Turkey at Euro 2020, it's the podcast equivalent of a night on the beers: dishevelled (Leon is eating his tea), excitable, hyperbolic and made to sleep in the spare room.
Mae Gareth, Rich, Leon a Russell yn ymhyfrydu yng ngogoniant un o'r nosau mwyaf pêl-droed Cymru.
Fe recordiwyd yn syth ar ôl y fuddugoliaeth dros Dwrci yn Ewro 2020, podlediad cywerth yw e â noson ar y cyrfau: aflêr ac anhrefnus (mae Leon yn bwyta ei de), cynyrfadwy, llawn o hyperbole a bu rhaid iddo gysgu yn yr sytafell sbâr.
Rich, Leon and Russell look back at the opening weekend of Euro 2020 including Wales's clash with Switzerland. They also look ahead to the game with Turkey. The tournament has been overshadowed by Christian Eriksen's cardiac arrest to whom and his continued recovery the episode is dedicated.
Mae Rich, Leon a Russell yn edrych yn ôl ar benwythnos agorol Ewro 2020 yn cynnwys brwydr Cymru â'r Swistir. Yn ogystal maent yn edrych mlaen at y gêm yn rbyn Twrci. Mae'r ŵyl bêl-droed wedi'i thaflu i'r cysgod gan ataliad ar galon Christian Eriksen i bwy a'i wellhad parhaol y caiff y rhifyn ei ymgysegru.
Russell is joined by Fez, Matt and Gareth Trombone from The Barry Horns to discuss their brand new single Cymru Rydd and to hear how they think Wales will do at the Euros.
Mae Russell yn cael ei ymuno gan Fez, Matt a Gareth Trombôn o'r Barry Horns i drafod eu sengl newydd sbon Cymru Rydd ac i glywed sut maen nhw'n meddwl y bydd Cymru yn gwneud yn yr Ewros.
The band gets back together again to consider who makes the cut for the Euros.
Mae'r bois yn dychwelyd i ystyried pwy fydd yn llwyddo carfan yr Ewros
Leon and Russell review an encouraging international window and start to the World Cup 2022 qualifying campaign. The episode is dedicated to Lee Collins, his family and all at Yeovil Town.
Mae Leon a Russell yn bwrw golwg ar ffenest rhyngwladol a chychwyn i'r ymgyrch rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022. Caiff y rhifyn ma ei gysegru i Lee Collins, ei deulu a phawb ar Yeovil Town
Originally from Swansea, now resident in Brno in the Czech Republic, Ralph Davies (@RalphDavies1) provides Wales fans with insight on the Czechs ahead of their visit to Cardiff: who will be their dangermen; how confident are they after their draw with Belgium; and, might they be under-estimating Wales?
Yn wreiddiol o Abertawe, yn awr yn breswyl ym Mrno yn y Weriniaeth Siec, mae Ralph Davies (@RalphDavies1) yn dod i gefnogwyr Cymru â mewnwelediad ar y Siecwyr o flaen eu hymweliad â Chaerdydd: pwy fydd eu perydlau; pa mor hyderus ydynt wedi'u gêm cyfartal â Gwlad Belg; ac, allent nhw fod yn bychanu Cymru efallai?
Ralph Davies (pic and featured image: | llun a phrif ddelwedd:Glen Wilson)
Gareth and Russell look ahead to the start of the Qatar 2022 qualifying campaign with the games against Belgium and Czech Republic - betwixt which is a friendly against Mexico - and consider what would constitute a good start to the campaign that welcomes Joe Allen back to the international stage. Quietly confident, and with a play-off safety net, things look promising on the pitch....while off it at the FAW dark clouds have gathered over Hensol Castle.
Mae Gareth a Russell yn edrych ymlaen at gychwyn yr ymgyrch rhagbrofol ar gyfer Qatar 2022 gyda'r gemau yn erbyn Gwlad Belg a'r Weriniaeth Siec - gyda gêm cyfeillgar yn erbyn Mecsico rhyngddynt - ac ystyried be fyddai'n cyfri fel cychwyn da i'r ymgyrch sy'n croesawu Joe Allen yn ôl i'r llwyfan rhyngwladol. Gydag hyder tawel, ac gan fod gêm ail-gyfle fel rhwyd arbed, ar y cae mae pethau'n edrych yn addewol....er fod oddi'r cae bu cymylau tywyll yn dod uwchben yr FAW a Chastell Hensol.
Leon and Russell are joined by Kent-based Spurs fan, Jason Campbell aka @indiehasbeen, for his views on Spurs' Welsh Mafia: Joe Rodon, Ben Davies and Gareth Bale.
They discuss how Gareth Bale is slowly re-dioscovering his fitness a what would constitute success for him this season. They also discuss what sort of impression Joe Rodon has made on Spurs fans since he joined; and in his seventh season at the club, what do fans think of Ben Davies
Mae Leon a Russell yn cael eu hymuno gan gefnogwr Spurs, Jason Campbell aka @indiehasbeen, yng Nghaint am ei sylwadau ar y Mafia Cymreig sydd gan Spurs: Joe Rodon, Ben Davies a Gareth Bale.
Maen nhw'n trafod sut mae Gareth Bale yn ail-ddarganfod ei ffitrwydd yn araf a beth fyddai'n cymhwyso fel llwyddiant iddo fe dymor hwn. Hefyd, maen yn trafod pa fath o argraff y bu Joe Rodon yn gwneud i gefnogwyr Spurs ers iddo ymuno; ac yn ei seithfed tymor gyda'r clwb, be' mae'r cefnogwyr yn meddwl am Ben Davies.
In this episode Leon, Russell and Gareth pay tribute to Ashley Williams, who retired in January 2021, and to Dai Davies who sadly lost his battle with cancer in February. Between them they won almost 140 Wales caps, were key members of two of Wales's greatest teams - 1974-77 and 2014-16 - and had a remarkable amount in common despite playing in different eras and having quite different upbringings.
Yn y rhifyn yma mae Leon, Russell a Gareth yn talu teyrnged i Ashley Williams, a ymddeolodd ym mis Ionawr 2021, ac i Dai Davies a gollodd ei frwydr gyda chanser yn anffodus ym mis Chwefror. Rhwng y ddau ohonynt enillodd fron 140 o gapiau i Gymru, aelodau allweddol oeddent nhw o ddau dîm mwyaf Cymru - 1974-77 a 2014-16 - a chawsant nhw hen ryfedd cymaint mewn cyffredin er gwaethaf chwarae yn oesoedd gwahanol a chael magwraeth hynod gwahanol.
The podcast returns after its winter break to celebrate #WorldRadioDay and the medium's intrinsic connection to sport and in particular football. Russell chats with one of the iconic Welsh English language voices in football broadcasting - Rob Phillips of BBC Cymru Wales.
Rob recalls how his career has taken him from covering local football in the Rhondda for newspapers to reporting on the national team for BBC Radio Wales including, of course, Euro 2016. Along the way his passion for radio hasn't dimmed.
Mae'r podlediad yn dychwelyd wedi ei egwyl gaeaf i ddathlu Diwrnod Radio'r Byd a chysylltiad ym môn y cyfrwng â chwaraeon ac yn enwedig pêl-droed. Mae Russell yn sgyrsio ag un o'r lleisiau Saesneg eiconig yn narlledu pêl-droed - Rob Phillips o BBC Cymru Wales.
Mae Rob yn atgofio sut mae ei yrfa wedi ei gymryd o sylwebu ar bêl-droed lleol y Rhondda ar gyfer cylchlythyrau i adroddi ar y tîm cenedlaethol ar gyfer BBC Radio Wales yn cynnwys, wrth gwrs, Euro 2016. Yn y cyfamser, ni fu ei draserch i radio ddim yn pylu.
Russell, Gareth, Leon and Rich weigh up Wales's qualifying group for Qatar 2022 in which they will face Belgium - for the first time since that magical night in Lille in 2016 - Czechia, Estonia and Belarus.
Mae Russell, Gareth, Leon a Rich yn myfyrio grŵp rhagbrofol ar gyfer Qatar 2022 yn y rhain y byddent nhw'n wynebu Gwlad Belg - am y tro cyntaf ers y noson hudol yna yn Lille yn 2016 - Czechia, Estonia and Belarws.
In this paradigm-bending, Inception style episode Russell, Gareth and Leon review the Autumn games and the Nations League campaign that culminated in promotion for Wales. They assess where they think the squad is ahead of not just the delayed Euro 2020, but the World Cup 2022 campaign that starts in March.
They also pay tribute to the late Diego Maradona.
Yn yr episod hwn sy'n plygu paradigms fel Inception, mae Russell, Gareth a Leon yn arolygu gemau'r Hydref a Chynghrair y Cenhedloedd a ddaeth i ben gyda ddyrchafiad i Gymru. Maen nhw'n asesu lle maent yn meddwl sut mae'r garfan o flaen nid yn unig Euro 2020 gohiriedig, ond ymgyrch Cwpan y Byd 2022 sy'n cychwyn fis Mawrth.
Hefyd men nhw'n talu eu teyrngedau i'r diweddar Diego Maradona.
Russell, Leon and Gareth look ahead to another triple header versus the United States and in the Nations League against the Republic of Ireland and Finland. With another heavy burden on players they consider how temporary manager Robert Page might make the most of his squad
Mae Russell, Leon a Gareth yn edrych ymlaen at driphlyg eto yn erbyn yr Unol Dalieithau ac yng Nghynghrair y Cenedloedd yn erbyn y Weriniaeth Iwerddon a'r Ffindir. Gyda faich trwm arall ar y chwaraewyr maen nhw'n ystyried sut efallai y bydd Robert Page, y rheolwr dros dro, yn gwneud y gorau o'i garfan.
Russell, Leon and Gareth look back at the October triple header of games versus England and in the Nations League against the Republic of Ireland and Bulgaria.
They wax lyrical about Jonny Williams; assess a promising debut by Rhys Norrington-Davies; express their frustrations at Rabbi Matondo; and consider who might replace the injured Wayne Hennessey next month.
They also pay tribute to James Collins on his retirement and summarise from a Welsh perspective the final days of the transfer window
Mae Russell, Leon a Gareth yn edrych yn ôl ar y driphlyg o gemau fis Hydref yn erbyn Lloegr ac yng Nghynghrair y Cenedloedd yn erbyn Y Weriniaeth Iwerddon a Bwlgaria.
Maen nhw'n canu glodydd Jonny Williams; asesu debut addawol Rhys Norrington-Davies; mynegi eu rhwystredigaeth am Rabbi Matondo; ac ystyried pwy efallai fydd yn cymryd lle Wayne Hennessey anafus fis nesaf.
Hefyd maen nhw'n talu teyrnged i James Collins wedi iddo ymddeol a chrynhoi o safbwynt Cymreig dyddiau y ffenestr trosgwlyddo.
Get in the mood for this week's England-Wales friendly by listening to how, fifty years ago Chris Leek, saxophonist in The Barry Horns, caught a train to Cardiff from Swansea and made his way to Ninian Park for his first ever Wales match: versus England in the 1970 Home Championship.
Listen to Chris's recollections of the game and also of the game against Northern Ireland a week later when George Best visited Chris's beloved Vetch Field.
Byddwch mewn hwyl i groesawu'r gêm cyfeillgar rhwng Lloegr a Chymru gan wrando ar sut esgynodd Chris Leek, sacsoffonydd gyda'r Barry Horns, drên o Abertawe i Gaerdydd a mentro i Barc Ninian am ei gêm Cymru cyntaf erioed: yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth Prydain 1970.
Gwrandewch ar atgofion Chris y gêm ac hefyd y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yr wythnos ddilynol pan ymwelodd George Best â'r Cae Vetch mor annwyl i Chris.
Gareth and Russell look ahead at the triple header of Wales games coming up: the friendly at Wembley against England; and the Nations League games versus the Republic of Ireland and Bulgaria. With three games in six days Ryan Giggs will surely have to use his squad options to the fullest and they ponder what he might do.
Mae Gareth a Russell yn edrych ymlaen i'r dri gem Cymru ar y gorwel: y gêm cyfeillgar yn Wembley yn erbyn Lloegr; a gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn y Weriniaeth Iwerddon a Bwlgaria. Gyda thri gêm yn chwe ddiwrnod heb os bydd rhaid i Ryan Giggs ddefnyddio opsiynau ei garfan i'w llawnder ac maen nhw'n ystyried be' efallai gwnaiff e.
Rich, Russell and Leon review Wales's 100% winning start to the opening round of the 2020 Nations League with a host of talking points: debut caps for Dylan Levitt, Neco Williams and Ben Cabango; two clean sheets; a new record for Wayne Hennessey; Ethan Ampadu as a centre back; and the return of David Brooks.
They also consider Ampadu's loan move to Sheffield United and pay tribute to the latest goalscoring landmark achieved by Cristiano Ronaldo.
Mae Rich, Russell a Leon yn arolygu cychwyn ennill 100% Cymru yn rownd agoriadol Cynghrair y Cenhedloedd gyda hen gymaint o bynciau trafod: capiau cyntaf i Dylan Levitt, Neco Williams a Ben Cabango; dwy daflen lân; record newydd i Wayne Hennessey; Ethan Ampadu fel amddiffynwr canol; a dychwelyd David Brooks.
Hefyd maen nhw'n ystyried symudiad Ampadu ar fenthyg i Sheffield United a thalu teyrnged i drobwynt sgorio diweddaraf Cristiano Ronaldo.
After almost 10 months without any international games, in this podcast Russell, Gareth and Leon look ahead to a new Nations League campaign and how Ryan Giggs might approach the opening matches against Finland and Bulgaria.
Ar ôl bron 10 mis heb unrhyw o gemau rhyngwladol, yn y podlediad yma mae Russell, Gareth a Leon yn edrych ymlaen at ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd newydd a sut efallai bydd Ryan Giggs yn mynd i'r afael â'r gemau agorol yn erbyn Y Ffindir a Bwlgaria.
In lieu of playing them here's part three of our series looking at the history of Wales's clashes against our Euro 2020 group opponents. Each podcast is being released on the day we should have been facing Switzerland, Turkey and Italy.
Yn lle eu chwarae nhw dyma ran tri o ein cyfres sy'n bwrw golwg dros hanes brwydrau Cymru yn erbyn ein gwrthwynebwyr Ewro 2020. Fe gaiff pob podlediad ei ryddhau ar y diwrnod y dylem ni fod wedi wynebu Y Swistir, Twrci a'r Eidal.
In lieu of playing them here's part two of our series looking at the history of Wales's clashes against our Euro 2020 group opponents. Each podcast is being released on the day we should have been facing Switzerland, Turkey and Italy.
Yn lle eu chwarae nhw dyma ran dau o ein cyfres sy'n bwrw golwg dros hanes brwydrau Cymru yn erbyn ein gwrthwynebwyr Ewro 2020. Fe gaiff pob podlediad ei ryddhau ar y diwrnod y dylem ni fod wedi wynebu Y Swistir, Twrci a'r Eidal.