Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n rhoi Cymru’n gyntaf. Rydym yn uchelgeisiol i Gymru a'i holl bobl. Ewch i http://www.plaidcymru.org #ymlaen
Sian Gwenllian ar Radio Cymru yn trafod y fargen ar y gyllideb mae Plaid Cymru wedi ei chytuno â'r llywodraeth, yn ogystal â dyfodol y Compact.
Mi fuodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn Rhun ap Iorwerth a'i dad Edward Morris Jones yn trafod Etifeddiaeth ar raglen Sian Thomas ar BBC Radio Cymru.
Hwn yw darllediad radio Plaid Cymru ar gyfer etholiad Cynulliad 2016. Rhun ap Iorwerth yw ein Gweinidog Cysgodol yr Economi ac yma mae’n esbonio pam fod Cymru angen newid ac mai Plaid Cymru yw’r newid sydd ei angen. #Plaid16 #Senedd16
Mr Williams yn esbonio ar BBC Radio Cymru pam ei fod ef a holl ASau Plaid Cymru yn bwriadu pleidleisio'n erbyn y cyrchoedd awyr.
http://www.plaidcymru.org/newyddion/2014/02/26/plaid-cymru-yn-datgelu-cynlluniau-am-ailstrwythuro-radical-i-iechyd-a-gwasanaethau-cymdeithasol/
Bydd enwebiadau yn agor yn swyddogol heddiw ar gyfer etholiad arweinydd newydd Plaid Cymru - The Party of Wales. Mae Plaid Cymru yn dechrau’r Flwyddyn Newydd ac yn lawnsio etholiad yr arweinyddiaeth gyda gêm bel-droed i godi arian yng Nghaerdydd, lle bydd yr aelodau, staff a chefnogwyr, gan gynnwys yr AS Jonathan Edwards, yn chwarae.
O heddiw ymlaen, gall ACau'r Blaid roi eu henwau gerbron yn swyddogol i fod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru. Bydd y cyfnod enwebu yn cau am hanner nos ar 26 Ionawr 2012. Yn wahanol i bleidiau eraill, etholir Arweinydd Plaid Cymru trwy Un aelod – un bleidlais, gan roi llais cyfartal i bob aelod ar lawr gwlad wrth ddewis arweinydd yr unig Blaid Genedlaethol yng Nhymru.
Fel Aelod o’r Senedd Ewropeaidd a Llywydd Plaid Cymru, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen i chi gyd, a blwyddyn newydd heddychlon a llewyrchus.
Mae blwyddyn gyffrous yn ein haros ym Mhlaid Cymru, gydag arolwg o’r blaid yn cyd-fynd ag gornest arweinyddiaeth ac Etholiadau Cyngor hynod gyffrous ym Mis Mai.
Rydym mewn cyfnod Economaidd hynod o anodd, felly ar flaen yr agenda i mi yn Senedd Ewropeaidd fydd creu swyddi, achub gwasanaethau hollbwysig, a chryfhau Economi Cymru.
Diolch am eich cefnogaeth ffyddlon i Blaid Cymru, ac rwy’n edrych ‘mlaen i weithio hefo chi dros Gymru yn 2012.

Jill Evans ASE
Llywydd Plaid Cymru