Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera. Dyma hi'n gynnar ar eich cyfer gan y daw pennod mis Awst yn fyw o'r Babell Lên yn ddigon buan wedi'r Brifwyl.Yn y bennod hon cawn gwmni'r Prifardd a'r cyn-fardd cenedlaethol Ifor ap Glyn, yr Archdderwydd Mererid a'r Prifardd Tudur Dylan, yn ogystal â gorffwysgerdd gan un o feirdd ardal Y Garreg Las, Steffan Phillips. Hyn oll a mwy!