Marc Howells, Pennaeth Datblygu Pobl a Thalent AstraZeneca, yw gwestai Beti George.Mae’n gyfrifol am 100 mil o bobol ar draws y byd, gan weithio rhwng Caergrawnt a’i gartref yng Ngresffordd. Bu’n gweithio gyda’r cwmni yn China, Awstralia a Philadelphia.Mae’r cwmni’n cynhyrchu cyffuriau sy’n ymwneud efo problemau’r ysgyfaint, y galon a chanser. Mae’r ffaith bod y cwmni wedi datblygu brechlyn Covid yn rhyfeddol meddai Marc, gan nad ydi’r cwmni yn cynhyrchu brechlynnau fel arfer. Cyn Covid dim ond dau frechlyn roeddynt yn ei gynhyrchu.Daw Marc yn wreiddiol o Ddinbych, ac ar ôl gadael Ysgol Glan Clwyd fe wnaeth brentisiaeth gyda Chwmni Pilkington yn Llanelwy. Roedd yn gweithio ar gynhyrchu rhannau ar gyfer peiriannau’r Fyddin (awyrennau, llongau tanfor, tanciau). Symudodd wedyn i adran arall o fewn y cwmni, sef yr Adran Ddiogelwch Ffibr Opteg, gwaith hynod o ddiddorol meddai Marc. Roedd yn cael mynd i bob mathau o lefydd i osod systemau, yn cynnwys Comin Greenham. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Llywodraethau Sweden, Portiwgal yr Almaen a'r Eidal ar ddatblygu sgiliau 5 miliwn o bobol ar gyfer y dyfodol.