Pryd o drafod: Recent Episodes

BBC Radio Cymru

Guto Harri sydd yn cael sgwrs heb slogannau ac yn cloriannu dros ginio ar gwys ein gwleidyddiaeth. Guto Harri chats politics over lunch.

View Details

Ymgeisydd seneddol oedd am newid y drefn a chynhyrchydd drama afaelgar ddangosodd mor wahanol allai gwleidyddiaeth Cymru fod. Mewn bwyty eidalaidd bywiog yn y Brifddinas mae gan Branwen Cennard berspectif unigryw - a difyr tu hunt.

View Details

Ar lan y Tafwys ym mwyty crand cyd-ddisgybl o ysgol y Preseli mae merch fferm o Sir Benfro yn dathlu ei gradd ar drothwy gyrfa ym Manc mwya'r byd. Ond wedi gweithio'n rhan amser i gyn-ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, mae Sara Watkin a'i llygad ar gipio ei sedd rhyw ddydd.

View Details

Rôl oes aur llywodraeth lafur, ac wedi chware rhan ganolog yn datganoli grym i Gymru, mae dadrithiad Jon Owen Jones yn drawiadol dros stecen a gwin coch yn y bwyta poblogaidd ger ei hen swyddfa yng nghanol Caerdydd.

View Details

Mae’n anodd dychmygu Cymraes a gwell sedd i wylio’r ddrama seneddol fawr ar Brexit. Elin James-Jones yw cydlynydd San Steffan ar y pwnc crasboeth ac mae’n rhannu’r profiad yn frwdfrydig mewn bwyty unigryw ger ei chartref yn Wandsworth.

View Details

Pam bod Cymro cenedlaetholgar dawnus am fod yn Aelod Seneddol Ceidwadol a rhoi ei hun a'i deulu ifanc drwy'r felin o fod yn wleidydd cyfoes?

Cawn yr ateb gan Tomos Dafydd dros ffagots ar gyrion marchnad Smithfield lle'r arfera'i ei hen deulu werthu eu llaeth.

View Details

Cyn-arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn LLwyd, sy’n cnoi cil dros yr hwyl a’r her o ddau ddegawd yn y senedd, ac yn awgrymu dros “dolmades” yn ei hoff ”daverna” bod angen newid arweinydd nawr.