Sôn am Sîn: Recent Episodes

sonamsin.cymru

Chris, Geth a'u ffrindiau sydd, yn llythrennol, yn Sôn am Sîn! Mae'r sianel yn gartref i gyfresi a rhaglenni amrywiol sydd yn trafod pob elfen o'r Sîn Roc Gymraeg a'i chyrion.

Mae'r podcast yn cyd-fynd â'r blog: www.sonamsin.cymru

View Details

Y cerddor arbrofol Izak Zjalic sy'n ymuno hefo Chris a Geth i drafod trac newydd Tai Haf Heb Drigolyn, 'Heneb Ddiog', yn ogystal â'i brosiectau cyffrous eraill.

View Details

Tegwen Bruce-Deans sy'n ymuno hefo Chris a Geth i drafod rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

View Details

Mae hi'n dipyn ers i'r Sôn ymddangos y tro diwethaf!

Ond - mae Chris a Geth yn eu holau i drafod albym Yr Eira, albym amlgyfrannog Cofi 19, beth yw manteision recordio adref dros recordio mewn stiwdio, a llu o gynnyrch cerddorol eraill i'w trafod hefyd.

View Details

Beth mae hogia' Papur Wal yn ei wrando arno fo?

Beth yw'r dylanwadau sydd yn cuddio y tu ôl i'w cerddoriaeth nhw?

Allwn ni ddisgwyl rhywbeth hollol wahanol yn eu caneuon newydd?

Be' di hanes Dennis Bergkamp?

Hyn i gyd a mwy wrth i'r tri gael cyfle am sgwrs hefo Chris a Geth mewn podlediad arbennig!

View Details

Dal yn eu tai eu hunain, wrth gwrs, mae Chris a Geth yn ymuno hefo'i gilydd yn rhithiol i drafod albyms Alun Gaffey ac Omaloma, cael trafodaeth am werth adolygiadau negyddol, a siarad am ddiwrnod crysau T bandiau fydd yn digwydd ddydd Gwener (12/6).

Ma' hon yn hir!!

0:00 - Adolygu albyms 33:40 - Adolygiadau Negyddol 59:21 - Crysau T bandiau 1:05:30 - Hoff gerddoriaeth diweddar Chris a Geth.

View Details

Albyms Lewys a Georgia Ruth yw'r cynnyrch diweddaraf i gael sylw Chris a Geth, ond maen nhw hefyd yn trafod Partis Gwrando ar Twitter, a'r ffaith y bydd yn rhaid iddyn nhw aros tan yr Hydref i gael mynd i ŵyl Focus Wales eleni.

View Details

Dydi Chris a Geth 'rioed di recordio podlediad heb i'r ddau ohona nhw fod yn yr un ystafell o'r blaen...

Ond - dydi'r lockdown 'ma ddim di eu stopio nhw rhag trafod albwm ddiweddaraf Ani Glass, gig Cowbois Rhos Botwnnog yn Galeri a'r hyn y maen nhw wedi bod yn ei wrando arno fo dros yr wythnosau/misoedd diwethaf.

Yn Trafod

Ani Glass - 01:20

Ymateb Cerddorion i aros yn tŷ - 11:40

Cowbois Rhos Botwnnog - 24:25

Dewisiadau Eraill - 42:30

View Details

Yws Gwynedd a Awen Schiavone sydd yn ymuno a Chris Roberts a Gethin Griffiths i drafod y gerddoriaeth a'r datblygiadau sydd yn diffinio’r degawd ddiwethaf mewn cerddoriaeth cyfoes Cymraeg. Recordiwyd y podlediad yma yn fyw o flaen cynulleidfa yn Clwb Canol Dre, Caernarfon fel rhan o Gŵyl Ddewi Arall 2020.

View Details

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, mae Marged Rhys yn trafod cydraddoldeb mewn cerddoriaeth hefo Chris a Geth. Marged yw'r gwestai cyntaf erioed ar y Sôn!

Hefyd, mi fyddan nhw'n trafod albwm Elis Derby a chyfyrs eu breuddwydion...

View Details

Yn ôl Gwobrau'r Selar, Elis Derby yw Artist Unigol Gorau 2019.

Yr artist unigol hwnnw sydd yn rhoi ei amser i Chris a Geth, ac maen nhw'n trafod yr albwm newydd, ei ddylanwadau anhygoel, a'r gytgan YNA.

View Details

Mae hi'n 2020 - ac mae 'na ddigon o bethau i'w trafod yn barod!

Chris a Geth sydd yn eu holau - ac maen nhw'n trafod Iaith y Nefoedd gan yr Ods, Gŵyl Neithiwr yn Pontio, a'r traciau anhygoel eraill sydd wedi dod allan yn ystod y mis diwethaf.

View Details

Pennod ychydig yn wahanol y tro hwn, wrth i Chris a Geth gael cyfle i gyfweld Carwyn Ellis ac Alffa.

View Details

Ar ôl mwynhau gymaint flwyddyn diwethaf, aeth Chris a Geth draw i Gaerdydd ar gyfer Gŵyl Sŵn 2019!

Tra'r oeddan nhw yno, mi'r oedd 'na gyfle iddyn nhw siarad hefo rhai o'r artistiaid oedd yn perfformio yn yr ŵyl - Casi, Eadyth, Hyll ac Ynys, yn ogystal â chael sgwrs gydag un o'r trefnwyr, Elan Evans.

View Details

Ar fis eu penblwyddi nhw, mae Chris a Geth yn trafod penblwyddi cerddorol a'r ffordd yr ydym ni'n eu nodi nhw.

Yn ogystal â hynny, maen nhw'n trafod albyms newydd Los Blancos a Gruff Rhys, ac yn chwarae gêm - Spotifive!

View Details

Ar ôl cwyno a chwyno nad oes yna ddigon o bethau i siarad amdanyn nhw, mae Chris a Geth yn trafod lot o bethau mewn awr...

.. ac mae hynny'n cynnwys stwff Hyll a Carwyn Ellis a Rio '19, faint ma nhw'n caru Steve Eaves, a sîn gerddorol Bangor.

A Janet Jackson.

View Details

Mae'n anarferol iawn i Chris a Geth ddod o'r Eisteddfod heb unrhyw beth i'w ddweud...

... a dydy Eisteddfod Sir Conwy 2019 ddim yn eithriad.

View Details

'Da ni 'di cyrraedd hanner ffordd drwy'r flwyddyn yn barod! Beth sydd wedi bod yn digwydd yn y chwe mis cyntaf? Chris a Geth sy'n trafod.

Hefyd, cyfle i adolygu senglau newydd Kim Hon, Omaloma a Pys Melyn, yn ogystal â thrafod caneuon sydd yn eich atgoffa chi o lefydd penodol.

View Details

Podlediad ychydig yn wahanol y mis yma, yn cynnwys cyfweliadau gyda'r bandiau oedd yn chwarae yn Focus Wales eleni!

Mae Chris a Geth wrth eu boddau hefo'r ŵyl, ac mi gafodd y ddau ohonyn nhw amser i drafod gydag Adwaith, Alffa, Chroma, Elis Derby, Gwilym, I Fight Lions, Papur Wal a Vrï. Fel 'tasa hynny ddim yn ddigon, mae 'na gyfweliad hefo Bethan Elfyn a Huw Stephens hefyd, yn sôn am ugain mlynedd ers eu rhaglen gyntaf ar Radio 1!

View Details

Ma hi'n fis Ebrill, a ma Chris a Geth 'di cadw at eu gair a 'di gneud pedwerydd podlediad y flwyddyn...

Am unwaith - ma 'na gigs i'w trafod! Ma 'na ddigon o gynnyrch 'fyd, a ma Chris yn sôn am faint ma'n lyfio Caneuon gan Ynys.

Ma 'nhw hefyd yn trafod os ydy'r Eisteddfod yn ddigon hygyrch a fforddiadwy...

View Details

Trydydd mis y flwyddyn, trydydd podlediad y flwyddyn... ac mae o'n hwyr. Wps.

Chris a Geth sydd yn siarad am EP newydd Papur Wal, Carwyn Ellis a Rio '18, a lot o stwff ma 'nhw di bod yn gwrando arno fo dros y mis!

View Details

Mae Chris a Geth yn cadw'r addewid o ddod a podlediad i chi bob mis... ond oes 'na ddigon i'w drafod?!

Yn sicr - mae gig Mr, Gwobrau'r Selar, a pha mor anhygoel ydi Los Blancos yn werth trafod.

Da chi'n gwbod y dril erbyn hyn.

View Details

Mae Chris a Geth yn eu holau am flwyddyn arall o'r Sôn!

Mae 'na dipyn i'w drafod, yn cynnwys y cynnyrch cerddorol sydd wedi cael eu rhyddhau ers pennod diwethaf y Sôn, yn ogystal â thrafodaeth am y nifer o leoliadau cerddorol poblogaidd hynny sydd wedi, neu yn bygwth cau.

View Details

Yn y podlediad yma ma' Chris a Geth yn croesawu Dion a Siôn o Alffa i stiwdio Sôn am Sîn. Dani'n trafod pob dim o dechnegau ysgrifennu i bel-droed!

Mae'r ddau o Lanrug wedi profi dipyn o lwyddiant yn eu gyrfa byr hyd yma. Fe ddaeth Allfa yn gyntaf yn Brwydr Y Bandiau Maes B yn 2017 ac wedi eu dewis fel un o 12 Gorwelion ar gyfer 2018. Erbyn hyn wedi arwyddo i Recordiau Côsh mae eu sengl gyntaf gyda'r label, Gwenwyn, wedi profi'n lwyddiant ar Spotify ac mae Dion a Sion rwan yn gweithio ar eu albym cyntaf.

View Details

Flwyddyn ar ôl lansio'r podlediad... mae Chris a Geth yn ôl lle 'naethon nhw ddechrau, yn sôn am y 'Steddfod. Ond, am y tro cynta' erioed, ma 'na gyfweliadau arbennig hefo Mellt, Yr Eira, Alffa a'r Ods!

Hefyd - maen nhw'n trafod albwm newydd Geraint Jarman a gwaith celf!

(Pennod 8)

View Details

Mae 'na hen ddigon o betha diddorol i'w dweud wrth i Chris a Geth adolygu albyms newydd Candelas ac I Fight Lions!

Hefyd, mae'r ddau yn trafod effaith rhestrau chwarae Spotify a'r potensial sydd ganddyn nhw i ledaenu cerddoriaeth Gymraeg yn bellach nag erioed o'r blaen...

(Pennod 7)

View Details

Ar ôl crwydro strydoedd Wrecsam penwythnos diwethaf, mae Chris a Geth yn trafod eu hymweliad cyntaf i ŵyl Focus Wales mewn pennod ychwanegol o'r Sôn! Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys Boy Azooga, Stella Donnelly a Chroma, i enwi dim ond tri...

View Details

Pen-blwydd Hapus Libertino... Cofio Gorwelion?... Gyrfa pŵl Gethin Griffiths. Ma' nhw 'di bod yn dawel iawn yn ddiweddar, ond ma' Chris a Geth 'nôl ar gyfer pennod newydd o'r Sôn! (Pennod 6)

View Details

Podlediad arbennig a recordiwyd yn Aberystwyth ar benwythnos Gwobrau'r Selar eleni. Gethin sydd yn holi Owain Schiavone, Elan Evans a Huw Stephens mewn trafodaeth sydd yn gofyn beth yw gwerth a phwrpas gwobrwyo artistiaid yn 2018. Wrth gwrs, mae 'na ambell i bwnc trafod arall yn codi hefyd...

View Details

Mewn podlediad arebennig mae Mari Elen yn holi aelodau o Chroma, Adwaith a Serol Serol. Maent yn trafod bod yn ferch yn creu cerddoriaeth yn Nghymru, perfformio'n ddwyieithog a llawer mwy.

Cafodd y sgwrs hon ei recordio'n fyw yn Galeri Caernarfon. Diolch i Sbarc-Galeri am drefnu'r noson.

View Details

Beth ydych chi'n ei wrando arno fo tra'n coginio, yn clirio'r tŷ ar fore dydd Sul, neu ar lan y môr? Chris a Geth sy'n rhoi eu hatebion nhw, yn ogystal â thrafod penwythnos Gwobrau'r Selar. (Pennod 5).

View Details

Ma' Chris a Geth yn ôl am flwyddyn arall o'r Sôn! Beth fydd yn digwydd yn 2018? Pa effaith fydd gan Ddydd Miwsig Cymru eleni? Ac wrth gwrs, mae nhw'n adolygu ac yn sôn am yr hyn sydd wedi tynnu eu sylw nhw yn ddiweddar. (Pennod 4)

View Details

Ffarweliwch â'r flwyddyn a fu gyda Cwis 2017! Hywel Pitts ac Elin Gruffydd sydd yn herio Lois Angharad Roberts a Tomos Owens.. ac mae hi'n agos!

View Details

Coeliwch neu beidio, rydym ni wedi recordio trydydd pennod Y Sôn! Y tro hwn bydd Chris a Geth yn trafod cerddoriaeth amgen a thraciau agoriadol albyms, yn ogystal â'r dadansoddiadau arferol o'r cynnyrch diweddaraf! (Pennod 3)

View Details

Traciau newydd ar SoundCloud, tiwns rhedag a cherddoriaeth Gymraeg ar y teledu yw pynciau trafod Chris a Geth yn ail bennod Y Sôn. Mi nath hi noson fawr noson cynt, felly mae'r ddau mewn mŵd bach od... (Pennod 2)

View Details

Chris a Geth sydd yn rhoi'r sîn yn ei le ym mhennod gyntaf Y Sôn! Pynciau trafod y bennod hon yw EPs diweddaraf rhai o fandiau mwyaf cyffrous y sîn, ac wrth gwrs, y 'Steddfod! (Pennod 1)