Cerddoriaeth podsaff a bandiau lleol, i gyd drwy gyfrwng y gymraeg, gyda fi, Rhys Downing. - tanysgrifiwch yma Podsafe music and local bands, all through the medium of welsh, with me, Rhys Downing. - subscribe here
My Music
Chwe mlynedd hir yn ddiweddarach!
Dw i'n meddwl am ail-ddechrau'r blog - does dim amser (na chyfleusterau) da fi I bodledu dyddiau hyn, ond mae gen i ryw 'itch' I wneud rhywbeth - unrhywbeth Cymraeg. Fi 'di byw yn Lloeger ers saith mlynedd nawr, tair ohonont yn Llundain, ac ond am aduniadau achlysurol gyda ffrindiau ysgol a wejen sy'n dysgu yn y ganolfan Gymraeg, does gen i ddim allfa am yr hyn oeddwn i arfer cael yn Nhy Tawe, y 'Steddfod, a Maes-E.
Does dim syniad da fi beth allen i sgwenni am i fod yn gwbl onest - o'n i arfer siarad am gerddoriaeth yn y podlediad, ond dw i'n hollol owt of tytch gyda'r 'sin Cymraeg' ddyddie hyn. Gewn ni weld. Rhaid i mi weud, dw i yn cael rhyw foddhad pengam o weld y linell goch spellchecker yn dangos lan o dan bron i bob gair dw i'n sgwennu. Eniwei - mae'n stats i'n gweud bod y blog di cael ei ymweld a dri deg o weithiau yn y chwe mis diwethaf. Os mai pobl go iawn oedd unrhyw o rhain - cysylltwch a fi drwy'r blog - efallai gai rhai syniadau am sut i gario mlaen gyda'r peth 'ma ddechreues i nol yn haf twym, hir a thrwm dwy fil a phump, a sy di goroesi rhywffordd dros y blynyddoedd wrth i'm mywyd i gario mlaen heb rhoi llawer o feddwl iddo.
Oriau bychan a syniadau dwl - mae'r ddau yn mynd law yn llaw!
Nes i recordio hwn ooooeeeesssoedd nol, a fi di bod mor brysur o'n i di anghofio rhoi fe ar y we. Anwybyddwch yr holl gyferiadau i frwydr y bandiau C2, ni i gyd yn gwybod sut wnaeth hwnna droi mas nawr!
Gwrandewch YMA!
Gwrandewch yma
Mae misoedd ar fisoedd di bod ers yr un diwetha. Sori!
Caneuon:
1 The Law of Fives - Dance Tonight Gwefan
2 Radioflyers - Popeth i'r Chwith Gwefan
3 Bill deRome - the Sundial Gwefan
4 Radioflyers - 1984
Mwynhewch!
Cliciwch Yma i wrando.
0:00 Rhagarweiniad - "Brian The Bear" gan The California Girls
3:42 Sioe anrhefnus - esgusodion Rhys!
5:25 "Burn" gan Curious
www.podcastnyc.net
8:33 Stori fach
10:55 "Everything You Do" gan The Suffrajets
www.thesuffrajets.com
14:17 Dim Andrew Lewis!
15:04 'Sneb Yn Gwybod Beth Mae Rhys Mynd I Chwarae, Hyd Yn Oed Rhys!
16:27 "I Need You" gan Adam McIntyre
www.adammcintyre.headphonetreats.com
21:22 Sub Pop Podcast
http://www.subpop.com/syndicate/
21:44 "Arizona" gan The Constantines
www.constantines.ca
26:35 Galwad Ffon annisgwyl
27:18 "Don't Count On Me" gan The Suffrajets
31:06 "Maybe" gan The One You Love
34:13 "Summertime" gan Brother Love
www.brotherloverocks.com
Peth newyddion cyffrous am sioe wythnos nesa. . .
Yn ogystal a'r cymysgedd eang o gerddoriaeth podsaff sydd 'di neud lan rhan fwyaf o'r ddwy sioe gyntaf, fe fydd gen i gwpl o eitemau mwy unigryw i chi erbyn wythnos nesaf. Mae The Suffrajets (www.thesuffrajets.com) ar ganol eu taith dros Brydain ar hyn o bryd, a cwrddais i nhw mewn clwb yn Abertawe ar nos wener. Canlyniad y cyfarfod yma oedd eu bod nhw wedi rhoi promo o'u sengl newydd "Everything You Do" i fi, a chaniatad i'w chwarae ar y podcast. Sticiwch hwnna yn eich piben, iTunes!
Hefyd, fe gawn ni gyfweliad a cherddoriaeth gyda Andrew Lewis, cyn-ganwr Splendigedig ac Adzuki (ie, glywoch chi'n iawn), a fydd yn siarad am ei hanes, ysbrodoliaeth a'i fand newydd.
Newyddion tryst hefyd, mae gen i ofn. Dydd sul nesaf byddai'n symud mas o adref, a dechrau ym mhrifysgol. Fe wnai gario mlaen gyda'r podcast, ond bydd rhaid gweud hwyl fawr i sain clir a manwl, a dechrau recordio ar feic y cyfrifiadur. Felly, joiwch y sain tra bod e'n para.
Laters
Gwrandewch yma
Shownotes:
0:00 Rhagarweiniad
0:45 Radio Amgen
www.radioamgen.net
3:12 "Sound Scientist" gan Bill
8:10 Top 5 DVDs cerddoriaeth;
5 MSP - FD GH
4 Dave Gilmour in Concert - Royal Festival Hall
3 Muse - Hullaballoo
2 The Clash - Westway to the world (cyfweliadau a live)
1 Queen - Live at Wembley Stadium
8:35 "Sentenced to Death (By Rock n Roll)" gan The Revolutions
13:00 PSA
www.redcross.org
14:47 Hwyl a sbri - Fi, Steff a Merched Mecca
17:19 "Dreaming of an M16" gan The Shapes
21:17 Diolch i bawb sydd 'di helpu fi gyda'r podcast - clips o Musicians' Cooler ac Andycast
www.coolerpodcasts.com
www.andycast.net
25:23 Y Rhwydwaith Gerddoriaeth Bodsaff
www.podsafemusicnetwork.com
26:06 "Sluttishly Walking Whore" gan Crash Menagerie
www.crashmenagerie.com
30:23 Hwyl Fawr!
30:51 "Postcards From Hell" gan American Heartbreak
www.churchofrockandroll.net
Cliciwch yma i wrando
Wel, ddaeth popeth at ei gilydd yn y diwedd, ac mae'r sioe gyntaf yn y can! Dyma'r nodiadau am Episode 1 o'r Podcast Graffiti Cymraeg
0:00 Rhagarweiniad
Podcastio neu podledu?
www.accidenthash.com
www.thescenezine.com
www.bandtrax.net
1:17 Granian - Mark My Words
www.granian.com
4:29 Rhwydwaith Gerddoriaeth Bodsaff
www.podsafemusicnetwork.com
http://music.podshow.com
Beth yw'r Rhwydwaith Gerddoriaeth Bodsaff?
7:00 Hurricane Katrina - www.cdbaby.com
www.redcross.org
8:23 The Matthew Show - The Lonliest Boy In Toyland
www.thematthewshow.com
13:56 Rhys Mwyn - 'sgwenna i fi! Tricky Nixon. Tanysgrifiwch http://feeds.feedburner.com/graffiticymraeg, www.coolerpodcasts.com
17:17 Merched Mecca - A470
21:48 Outro
Gobeithio bod chi'n joio fe (os oes unrhywun yn gwrando. . .)
Jyst mo'yn dweud diolch yn fawr i Dave Jackson o'r Musicians' Cooler Podcast am chwarae promo a clip o Graffiti Cymraeg ar ei bodcast, ac am chwarae un o nghaneuon i. Tanysgrifiwch i'r Musicians' Cooler Podcast Yma.
Mor belled a bod fi'n gwybod ta beth. Gyrrwch ebost i rhysdowning@gmail.com os y chi'n anghytuno.
'Falle bod chi di sylwi (os y chi'n darllen. . .) bod dim podcast 'ma. Dyw'r ffaith 'ma ddim di dianc o'n ymwybodoliaeth (yfe gair iawn yw hwna?), ond ges i'r syniad I neud podcast cymraeg mewn tafarn neithiwr, felly bydd eisie peth amynedd i'r holl beth ddod i fodoliaeth.
Y cynllun gwreiddiol oedd podcastio'n gymraeg a chwarae bands cymraeg yn unig. Dyna beth wy'n anelu at yn y tymor hir, ond 'sdim lot o fandiau cymraeg yn bodsaff eto (os y chi mewn band cymraeg, a hoffech gael eich chwarae ar y podcast hyn, neu un arall, rhowch bip i'r Rhwydwaith Gerddoriaeth Bodsaff neu gyrrwch ebost i fi). Felly am y cwpl o bodcasts cynta, na'i chwarae bandiau saesneg, nes bod fi gallu sorto mas pethau hawfraint gyda'n hoff fands cymraeg.
Ta beth, f'enw i yw Rhys Downing - cerddor, a cyn bo hir myfyriwr a podcastiwr. Swi'mai, gobeithio bod chi'n joio'r podcast unwaith bod e'n dechrau.